Role: Director of Financial Risk
Company: Wales Pension Partnership Investment Management Company (WPP IM Co)
Salary: £125,000 per annum + bonus + generous pension + benefits Wales / Hybrid
WPP IM Co is being established as an FCA-regulated investment management company to serve the eight Welsh Local Government Pension Scheme funds, managing more than £25 billion for 412,000 members. This is a once-in-a-generation opportunity to help shape a permanent, world-class investment institution for Wales and to design and lead the investment capability of a new, regulated company at the heart of UKLGPS reform.
With Government backing, and authorisation targeted for March 2026, WPP IM Co will operate to global standards with a Welsh purpose - combining professional excellence with a clear public mandate. Over time, WPP IM Co will help channel long-term pension capital into clean energy, affordable housing, innovation and other investments that strengthen Wales and the UK - demonstrating how responsible investment can serve members and the communities they live in.
The organisation is now seeking its first ever Director of Financial Risk to design, embed and oversee WPP IM Co's financial risk, compliance and financial crime frameworks. Reporting to the Chief Executive Officer, you will ensure that the company meets the highest standards of prudential and regulatory integrity, providing independent assurance to the Board, Audit & Risk Committee, and regulators.
This is a pivotal leadership role within a lean structure - suited to an experienced Risk professional who thrives in a hands-on environment. You will shape and implement proportionate frameworks for market, liquidity and credit risk, lead compliance and financial crime oversight, and act as a trusted counterpart to regulators and Partner Funds.
You may already hold a senior Risk leadership role in an FCA-regulated investment or asset management organisation or be ready to take that next step. You will bring a depth of knowledge of MIFIDPRU, capital adequacy, liquidity management and ICARA requirements and an understanding of investment-risk analytics, stress testing and scenario analysis. In addition, you will bring a familiarity with compliance monitoring and best practice as well as of overseeing AML, CTF and sanctions frameworks and fulfilling MLRO responsibilities.
Experience within the LGPS or public sector is not required. Welsh connectivity or experience would be advantageous but is not essential. Welsh language proficiency is also not essential but would be an advantage.
For further information, please click on or call the Odgers Wales team for a confidential conversation in English or Welsh on or via
Cyfarwyddwr Risg Ariannol
Cwmni Rheoli Buddsoddiadau Partneriaeth Pensiwn Cymru (Cwmni Rheoli Buddsoddiadau PPC)
£125,000 y flwyddyn + bonws + pensiwn hael + buddion Cymru / Hybrid
Mae Cwmni Rheoli Buddsoddiadau Partneriaeth Pensiwn Cymru yn cael ei sefydlu fel cwmni rheoli buddsoddiadau a reoleiddir gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol i wasanaethu'r wyth cronfa Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yng Nghymru, gan reoli mwy na £25 biliwn ar gyfer 412,000 o aelodau. Dyma gyfle unwaith mewn cenhedlaeth i helpu i lunio sefydliad buddsoddi parhaol, o'r radd flaenaf i Gymru ac i ddylunio ac arwain gallu buddsoddi cwmni newydd a reoleiddir sydd wrth wraidd diwygio Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol y DU.
Gyda chefnogaeth y Llywodraeth, gan dargedu awdurdodiad ar gyfer mis Mawrth 2026, bydd Cwmni Rheoli Buddsoddiadau PPC yn gweithredu yn ôl safonau byd-eang gyda phwrpas Cymreig - gan gyfuno rhagoriaeth broffesiynol â mandad cyhoeddus clir. Dros amser, bydd Cwmni Rheoli Buddsoddiadau PPC yn helpu i sianelu cyfalaf pensiwn hirdymor i ynni glân, tai fforddiadwy, arloesi a buddsoddiadau eraill sy'n cryfhau Cymru a'r DU - gan ddangos sut y gall buddsoddi cyfrifol fod o fudd i aelodau a'r cymunedau lle maent yn byw.
Mae'r sefydliad bellach yn chwilio am ei Gyfarwyddwr Risg Ariannol cyntaf erioed i ddylunio, sefydlu a goruchwylio fframweithiau risg ariannol, cydymffurfiaeth a throseddau ariannol Cwmni Rheoli Buddsoddiadau PPC. Gan fod yn atebol i'r Prif Swyddog Gweithredol, byddwch yn sicrhau bod y cwmni'n bodloni'r safonau uchaf o ran uniondeb darbodus a rheoleiddiol, gan ddarparu sicrwydd annibynnol i'r Bwrdd, y Pwyllgor Archwilio a Risg, a'r rheoleiddwyr.
Mae hon yn rôl arwain allweddol o fewn strwythur darbodus - sy'n addas i weithiwr risg proffesiynol profiadol sy'n ffynnu mewn amgylchedd ymarferol. Byddwch yn llunio ac yn gweithredu fframweithiau cymesur ar gyfer risg yn ymwneud â chredyd, marchnadoedd a hylifedd, yn arwain y gwaith o oruchwylio cydymffurfiaeth a throseddau ariannol, ac yn gweithredu fel partner dibynadwy i reoleiddwyr a Chronfeydd Partner.
Efallai y bydd eisoes gennych rôl arwain risg uwch mewn sefydliad buddsoddi neu reoli asedau a reoleiddir gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol neu eich bod yn barod i gymryd y cam nesaf hwnnw. Bydd gennych wybodaeth helaeth am MIFIDPRU, digonolrwydd cyfalaf, rheoli hylifedd a gofynion ICARA ynghyd â dealltwriaeth o ddadansoddi risg buddsoddi, profion straen a dadansoddi senarios. Yn ogystal, byddwch yn gyfarwydd â monitro cydymffurfiaeth ac arferion gorau yn ogystal â goruchwylio fframweithiau atal gwyngalchu arian/cyllido gwrthderfysgaeth a sancsiynau a chyflawni cyfrifoldebau Swyddog Adrodd Gwyngalchu Arian.
Nid oes angen profiad o fewn Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol neu yn y sector cyhoeddus. Byddai cysylltiad â Chymru neu brofiad o Gymru yn fanteisiol ond nid yw'n hanfodol. Nid yw hyfedredd yn y Gymraeg yn hanfodol chwaith, ond byddai'n fanteisiol.
Am rhagor o wybodaeth, ewch i neu cysylltwch â thîm Odgers Cymru am sgwrs cyfrinachol yn y Gymraeg neu'r Saesneg ar neu ar