£125,000 per annum + bonus + generous pension + benefits Wales / Hybrid
WPP IM Co is being established as an FCA-regulated investment management company to serve the eight Welsh Local Government Pension Scheme funds, managing more than £25 billion for 412,000 members. This is a once-in-a-generation opportunity to help shape a permanent, world-class investment institution for Wales and to design and lead the investment capability of a new, regulated company at the heart of UKLGPS reform.
With Government backing, and authorisation targeted for March 2026, WPP IM Co will operate to global standards with a Welsh purpose - combining professional excellence with a clear public mandate. Over time, WPP IM Co will help channel long-term pension capital into clean energy, affordable housing, innovation and other investments that strengthen Wales and the UK - demonstrating how responsible investment can serve members and the communities they live in.
The organisation is now seeking its first ever Director of Non-Financial Risk to lead its operational-risk, compliance and financial-crime frameworks, holding FCA Senior Management Functions SMF16 (Compliance Oversight) and SMF17 (Money Laundering Reporting Officer). Reporting to the Chief Executive Officer, this role will be central to demonstrating to Government and the FCA that WPP IM Co meets the highest standards of conduct, governance and operational resilience.
You will design and embed proportionate, best-practice frameworks for operational risk, outsourcing oversight, resilience and compliance - ensuring robust systems and controls for a £25 billion investment organisation. Working closely with the Director of Financial Risk, you will maintain a unified enterprise-risk framework that integrates prudential, operational and conduct risk.
You may already hold SMF16/17 approval within a regulated firm or be ready to step into your first senior executive role. You will bring extensive senior-level experience in operational-risk, compliance or resilience leadership within a regulated investment or asset-management environment. You will bring a strong understanding of outsourcing frameworks (including overseeing third-party providers), operational-resilience regulation, and data-protection or cyber-security standards. With a proven ability to engage with regulators and Board Members, you will also bring experience establishing or scaling a Compliance function, including hiring and managing compliance professionals.
Experience within the LGPS or public sector is not required. Welsh connectivity or experience would be advantageous but is not essential. Welsh language proficiency is also not essential but would be an advantage.
To have a confidential conversation about the role with Odgers' team in Wales, please call Jemma Terry, Leighton Freeman or Steffan Griffiths on or email us at . All applications will be acknowledged, and we particularly welcome applications from diverse candidates.
To apply, please submit a CV by 12 November 2025.
£125,000 y flwyddyn + bonws + pensiwn hael + buddion Cymru / Hybrid
Mae Cwmni Rheoli Buddsoddiadau Partneriaeth Pensiwn Cymru yn cael ei sefydlu fel cwmni rheoli buddsoddiadau a reoleiddir gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol i wasanaethu'r wyth cronfa Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yng Nghymru, gan reoli mwy na £25 biliwn ar gyfer 412,000 o aelodau. Dyma gyfle unwaith mewn cenhedlaeth i helpu i lunio sefydliad buddsoddi parhaol, o'r radd flaenaf i Gymru ac i ddylunio ac arwain gallu buddsoddi cwmni newydd a reoleiddir sydd wrth wraidd diwygio Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol y DU.
Gyda chefnogaeth y Llywodraeth, gan dargedu awdurdodiad ar gyfer mis Mawrth 2026, bydd Cwmni Rheoli Buddsoddiadau PPC yn gweithredu yn ôl safonau byd-eang gyda phwrpas Cymreig - gan gyfuno rhagoriaeth broffesiynol â mandad cyhoeddus clir. Dros amser, bydd Cwmni Rheoli Buddsoddiadau PPC yn helpu i sianelu cyfalaf pensiwn hirdymor i ynni glân, tai fforddiadwy, arloesi a buddsoddiadau eraill sy'n cryfhau Cymru a'r DU - gan ddangos sut y gall buddsoddi cyfrifol fod o fudd i aelodau a'r cymunedau lle maent yn byw.
Mae'r sefydliad bellach yn chwilio am ei Gyfarwyddwr Risg Anariannol cyntaf erioed i arwain ei fframweithiau risg weithredol, cydymffurfiaeth a throseddau ariannol, gan feddu ar Swyddogaethau Uwch-reolwr SMF16 (Goruchwylio Cydymffurfiaeth) a SMF17 (Swyddog Adrodd Gwyngalchu Arian) gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol. Gan fod yn atebol i'r Prif Swyddog Gweithredol, bydd y rôl hon yn ganolog i ddangos i'r Llywodraeth a'r Awdurdod Ymddygiad Ariannol fod Cwmni Rheoli Buddsoddiadau PPC yn bodloni'r safonau uchaf o ran ymddygiad, llywodraethu a gwytnwch gweithredol.
Byddwch yn dylunio ac yn sefydlu fframweithiau arferion gorau cymesur ar gyfer risg weithredol, goruchwylio darparwyr allanol, gwytnwch a chydymffurfiaeth - gan sicrhau systemau a mesurau rheoli cadarn ar gyfer sefydliad buddsoddi gwerth £25 biliwn. Gan weithio'n agos gyda'r Cyfarwyddwr Risg Ariannol, byddwch yn cynnal fframwaith risg menter unedig sy'n integreiddio risg ddarbodus, weithredol ac ymddygiad.
Efallai y bydd eisoes gennych gymeradwyaeth SMF16/17 o fewn cwmni a reoleiddir neu eich bod yn barod i gamu i'ch rôl uwch-swyddog gweithredol gyntaf. Bydd gennych brofiad helaeth ar lefel uwch o arwain ym maes risg weithredol, cydymffurfiaeth neu wytnwch mewn amgylchedd buddsoddi neu reoli asedau a reoleiddir. Bydd gennych ddealltwriaeth gref o allanoli fframweithiau (gan gynnwys goruchwylio darparwyr trydydd parti), rheoleiddio gwytnwch gweithredol a diogelu data neu safonau seiberddiogelwch. Bydd gennych allu pendant i ymgysylltu â rheoleiddwyr ac Aelodau'r Bwrdd, a hefyd bydd gennych brofiad o sefydlu neu ehangu swyddogaeth cydymffurfiaeth, gan gynnwys cyflogi a rheoli gweithwyr cydymffurfio proffesiynol.
Nid oes angen profiad o fewn Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol neu yn y sector cyhoeddus. Byddai cysylltiad â Chymru neu brofiad o Gymru yn fanteisiol ond nid yw'n hanfodol. Nid yw hyfedredd yn y Gymraeg yn hanfodol chwaith, ond byddai'n fanteisiol.
I gael sgwrs cyfrinachol am y rôl gyda'r thîm Odgers Cymru, cysylltwch â Jemma Terry, Leighton Freeman neu Steffan Griffiths ar neu ebostiwch . Bydd pob cais yn cael ei gydnabod, a rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr amrywiol.
I ymgeisio, danfonwch CV erbyn 12 Tachwedd 2025.